Our History

HEN DDARREN FAWR TREBANNWS 

Mae hen bentref yn Morganwg
Sy'n enwog iawn rwy'n siwr
O’i gwmpas mae’r hen gamlas
A’r Tawe’n lawn o ddwr
Trebanos ydyw’r pentre
Boed hysbys i chwi nawr
Lle magwyd llawer baban
I dyfu lan yn gawr

Cymdogion diniol ddigon
Oedd yma ceisio byw
O odre isa’r ddaren
I’r bwythyn Tan y Rhiw
O fewn cynteddau’r ardal
Bu bechgyn da tu–hwynt
Ond cael hwynt yn ei cymal
Nid oedd dim un yn frwynt

Roedd yna ddinasyddion
Rhai da fel gwelwch chwi
Mi rhoddaf ichwi’n flaenaf
Rhai gorau ac o fri
Jack Lloyd a rhof yn gyntaf
Mae'n fiswn heb y fath
Llawn bola yn y Colliers
El adre fel y sath

Fe godwyd stack y Darren
Gan Jack pob toriad gwawr
Y trafferedd mwya gafodd
Oedd dod yn ol i’r llawr
Oedd Jack yn diamenedd
Dim blewyn ar eu ben
Ond bai i Jack i gwmpo
Bydda’r stack yn y Nefoedd Wen

Hen Ellen Jones y widwith
Oedd barod iawn bob pryd
I helpu baban arall
I fewn i arall fyd
Fe gelwyd arni’r hwyrnos
Neu yn y bore bach
Hel yno ar eu dwygos
Er achub yr un bach

Fel meddug yr hen ardal
Dan Bowen oedd y dyn
Efe gymeraur’r gofal
Rhoi hastell braich neu glun
Ei helu oedd yn special
I gornwyd eisiau ddryn
Ei bwltys I’r hen bliwral
Gael holl wellhad y ddyn

Hen Lewis Gwrach-y-Llwyne
Oedd fochwr da yn wir
O fagu moch yw gwerthu
I’r taul i drwdior tir
Fe welwyd ef yn myned
I’r farchnad wrth ei hun
Un hwyr yn dyfod adre
Yn feddw mawr a blin

Mewn bwythyn bach gwyn galchog
Un arall oedd yn byw
Chi’n nabod Dai John ffurad
Wel Dad John Huw
Siop chips oedd hwyn yn gadw
I borthi’r pentre clyd
Yn swn ‘rhen nant fach loyw
Oedd pawb yn newid byd

|